Addo eich cefnogaeth

Gwnewch addewid a chefnogi blwyddyn o newid

Mae’r ffurflen hon ar gyfer sefydliadau yn y DU a hoffai wneud addewid i gefnogi’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Llenwch y ffurflen i amlinellu eich cynlluniau ar gyfer ‘Ymgolli’ yn ystod 2026.

Sut mae’n gweithio

Dod yn bartner addewid

Bydd tîm y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yn adolygu pob addewid. Bydd sefydliadau sy’n addo yn dod yn ‘bartneriaid addewid’ ac yn cael eu rhestru ar dudalen partneriaid Ymgolli.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth am yr addewid i greu darlun o weithgarwch ar hyd a lled y DU a byddwn yn cysylltu â’r holl bartneriaid addewid ar ddiwedd 2026, i weld sut mae pethau wedi mynd.

Mae croeso i sefydliadau wneud mwy nag un addewid, ond dylent ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost i sicrhau bod addewidion yn cael eu cysylltu.

Does dim angen i ysgolion unigol a lleoliadau blynyddoedd cynnar wneud addewid, ond yn hytrach dylent gymryd rhan yng nghynnig addysg llawn y Flwyddyn Darllen Genedlaethol.

ffurflen addewid